Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
17 Hydref 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
(5 munud)
(60 munud)
NDM6782
Lee Waters
(Llanelli)
David Melding Canol De
Cymru)
Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd)
Hefin David
(Caerffili)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a
Dinefwr)
Vikki Howells (Cwm
Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi sectorau sylfaenol yn ei chynllun gweithredu economaidd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ymhellach o ran croesawu egwyddorion yr economi sylfaenol.
2. Yn credu bod dull Cyngor Dinas Preston o adeiladu cyfoeth cymunedol yn amlwg wedi llwyddo i fynd i'r afael ag amddifadedd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr o Gyngor Dinas Preston i drafod y gwersi y gellir eu dysgu.
3. Yn credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnig cyfle sylweddol i ail-fframio gwerth gorau yng nghyd-destun caffael yng Nghymru, i gefnogi dull yr economi sylfaenol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu modelau uchelgeisiol o ofal cymdeithasol i oedolion sy'n cydnabod pwysigrwydd dull lleol ac yn treialu modelau amgen lluosog o ddarparu gofal, fel rhan o ddull gweithredu yr economi sylfaenol yng Nghymru.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
(60 munud)
NDM6828 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Diwydiant 4.0 - dyfodol Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Awst 2018.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 10 Hydref 2018.
(60 munud)
NDM6829 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder am gapasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod pwysau drwy gydol y flwyddyn yn llesteirio gallu'r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i adeiladu capasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod angen cydnabod a deall y pwysau sydd drwy gydol y flwyddyn, er mwyn hybu gallu’r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru Iachach ar waith i ymdrin â’r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo:
Yn nodi bod pwysau ariannol sy’n arwain at wasanaethau gofal cymdeithasol gwaeth yn cyfrannu at bwysau cynyddol ar y GIG.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 3, ychwanegu ‘gofal cymdeithasol,’ ar ôl ‘phwysau ar wasanaethau’.
(30 munud)
NDM6830 Lee Waters (Llanelli)
Cyflawni ein hymrwymiadau o ran yr hinsawdd – Cymru 100 y cant adnewyddadwy.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Hydref 2018